Dyffryn Ardudwy

pentref a chymuned yn Ardudwy, Gwynedd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:26, 1 Medi 2010 gan OsianLlwyd1 (sgwrs | cyfraniadau)

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Dyffryn Ardudwy. Saif ar y ffordd A496 rhwng Harlech ac Abermaw yn ardal Ardudwy. Mae pentref Llanbedr ychydig i'r gogledd a Thal-y-bont i'r de.

Delwedd lloeren Dyffryn Ardudwy

Mae twristiaeth yn bwysig i'r ,bellach, gan ei fod gerllaw traethau Morfa Dyffryn. Ychydig i'r gorllewin o ganol y pentref mae un o orsafoedd trên Rheilffordd Arfordir Cymru.

Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref, yn cynnwys tair siambr gladdu: Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy ei hun, Bron y Foel Isaf a Siamb Gladdu Cors Y Gedol, sydd gerllaw hen blasty Cors y Gedol i'r dwyrain o'r pentref. Mae un arall fymryn i'r de ger Tal-y-bont, felly, gellir casglu i'r ardal yma fod yn aradl boblog iawn yn y cyfnod Neolithig. Mae bryngaer Pen-y-Dinas o Oes yr Haearn hefyd gerllaw.

Brodor o Ddyffryn Ardudwy oedd Edward Morgan Humphreys, y newyddiadurwr a'r nofelydd enwog.