Caer Rufeinig Caerllion

Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru.

Caer Rufeinig Caerllion
Mathadeilad Rhufeinig, safle archaeolegol, caer Rufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerllion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6103°N 2.9589°W, 51.609862°N 2.956499°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM252 Edit this on Wikidata

I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddid y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74 OC, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.

Golygfa o'r olion Rhufeinig
Amffitheatr Rhufeinig y gaer

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1]

Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2]

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.

Yr amffitheatr

golygu
 
Yr Amffitheatr Rufeinig

Arferai'r trigolion lleol alw'r amffitheatr yn "Fwrdd Crwn Arthur" oherwydd ei siap a'r cysylltiad honedig gydag Arthur. Rhwng 1909 ac 1926 cafwyd cloddio archaeolegol o dan arweiniad Victor Erle Nash-Williams, a ddaeth i'r canlyniad mai oddeutu 90 OC y cychwynnwyd ar y gwaith o'i godi. Erys y rhan fwyaf ohono heb ei gloddio. Siâp hirgrwn sydd iddo mewn gwirionedd a chredir y gallasid dal oddeutu chwe mil o bobl. Mae'n cynnwys clawdd pridd wedi ei gynnal gan fur o gerrig, lle mae wyth mynedfa i'r man perfformio.[3]

Golygfa panoramig 360° o'r amffitheatr.

Caerau Rhufeinig cyfagos

golygu

Ceir Caer Penrhos gerllaw: rhif SAM MM011; cyfeiriad grid ST342917.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cofrestr Cadw.
  2. The Mynde, Caerleon
  3. Over Wales Cyhoeddwyd Pitkin Unichrome 2000

Dolen allanol

golygu


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis