Neidio i'r cynnwys

Propaganda

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Propaganda a ddiwygiwyd gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau) am 16:01, 26 Chwefror 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Clawr comic propaganda am beryglon Comiwnyddiaeth, cyhoeddwyd yn UDA, 1947

Cyhoeddusrwydd neu wybodaeth ddethol a ledaenir er mwyn hyrwyddo achos neu bolisi (gwleidyddol, crefyddol a.y.y.b.) yw propaganda.

Fe all propaganda fod yn gelwydd noeth, ond yn amlach mae'n ddetholiad neilltuol o'r ffeithiau. Trwy bwysleisio agweddau positif neu negyddol gellir dyrchafu neu bardduo polisi, llywodraeth, neu achos.

Mae propaganda yn gallu defnyddio sawl cyfrwng, e.e. mewn print fel llyfr, pamffled neu erthygl papur newydd, ffilm sy'n honni fod yn hanesyddol gywir, ffilm ddogfen unochrog, posteri a.y.y.b.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.