Barbara Perry
Gwedd
Barbara Perry | |
---|---|
Ganwyd | Barbara Mae Perry 22 Mehefin 1921 Norfolk, Virginia |
Bu farw | 5 Mai 2019 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, canwr, dawnsiwr, actor ffilm |
Priod | Art Babbitt |
Actor a digrifwr o'r Unol Daleithiau oedd Barbara Mae Perry (22 Mehefin 1921 – 5 Mai 2019).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Perry yn Norfolk, Virginia. Roedd ei thad, William Covington Perry, o Hopewell, Virginia, yn addoli cerddoriaeth jazz a chlasurol. Roedd ganddo fand o'r enw "Perry's Hot Dogs", gyda Ben Selvin a'i Gerddorfa, a chwaraeodd gyda llawer o sioeau yn Broadway. Bu farw o dwbercwlosis yn Banning, California ar 30 Hydref, 1936. Roedd ei mam, Victoria Mae (Gates) Perry o New Castle, Pennsylvania, yn cantores yng nghorws yr Opera Fetropolitan, yn Nhŷ Opera yr Hen Fetropolitan, gan ddechrau tua 1925, o dan y Rheolwr Cyffredinol Giulio Gatti-Casazza.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Barbara Perry". IMDb. Cyrchwyd 7 Mawrth 2008.