Dartiau
Gwedd
![](http://178.128.105.246/cars-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fb/Darts_in_a_dartboard.jpg/280px-Darts_in_a_dartboard.jpg)
Gêm lle teflir dartiau at ddartfwrdd – sef targed crwn ar wal – yw dartiau. Mae dartiau'n gêm gystadleuol broffesiynol yn ogystal â bod yn gêm dafarn draddodiadol. Mae'n boblogaidd yng Ngwledydd Prydain; y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf i gydnabod dartiau'n swyddogol. Mae hefyd yn boblogaidd yn y Gymanwlad, yr Iseldiroedd, Iwerddon, gwledydd Llychlyn, yr Unol Daleithiau, a gwledydd eraill.
![](http://178.128.105.246/cars-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0c/Mr_Ifor_Williams%2C_y_saer_o_Cynwyd_ger_Corwen_a%27i_weithwyr_yn_chwarae_dartiau_amser_cinio_%2817565857976%29.jpg/220px-Mr_Ifor_Williams%2C_y_saer_o_Cynwyd_ger_Corwen_a%27i_weithwyr_yn_chwarae_dartiau_amser_cinio_%2817565857976%29.jpg)
Credir i'r gêm, a elwid ar un tro yn saethau, ddod yn boblogaidd yn oes y Tuduriaid gan saethwyr bwa saeth.