Neidio i'r cynnwys

Geraldine Brooks

Oddi ar Wicipedia
Geraldine Brooks
Ganwyd14 Medi 1955 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Man preswylSydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Columbia University Graduate School of Journalism
  • Prifysgol Sydney
  • Coleg Bethlehem, Awstralia
  • Prifysgol Columbia Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, nofelydd, awdur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodTony Horwitz Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr Helmerich, honorary doctor of the University of Sydney, Swyddogion Urdd Awstralia, Nita Kibble Literary Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.geraldinebrooks.com/ Edit this on Wikidata

Nofelydd a newyddiadurwr Awstralaidd-Americanaidd yw Geraldine Brooks (ganwyd 14 Medi 1955). Yn 2005 enillodd ei nofel March iddi Wobr Pulitzer am Ffuglen.[1][2][3][4]

Fe'i ganed yn Sydney ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Columbia University Graduate School of Journalism, Prifysgol Sydney, Coleg Bethlehem, Awstralia a Phrifysgol Columbia. [5][6]

Magwraeth a choleg

[golygu | golygu cod]

Yn frodor o Sydney, magwyd Geraldine Brooks yn y faestref orllewinol 'Ashfield'. Roedd ei thad, Lawrie Brooks, yn ganwr gyda band Americanaidd a fu ar daith o amgylch Awstralia pan ddihangodd ei reolwr â chyflog y band; penderfynodd aros yn Awstralia, a daeth yn is-olygydd papur newydd. Roedd ei mam Gloria, o Boorowa, yn swyddog cysylltiadau cyhoeddus gyda gorsaf radio 2GB yn Sydney.[7]

Wedi iddi raddio ym Mhrifysgol Sydney, bu’n ohebydd i The Sydney Morning Herald ac, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Goffa Greg Shackleton, symudodd i Unol Daleithiau America (UDA), gan gwblhau gradd meistr yn Ysgol Newyddiaduraeth Graddedigion Prifysgol Columbia Dinas Efrog Newydd ym 1983. Y flwyddyn ganlynol, ym mhentref Tourrettes-sur-Loup, de Ffrainc, priododd y newyddiadurwr Americanaidd Tony Horwitz a throsi i Iddewiaeth.[8]

Fel gohebydd tramor The Wall Street Journal, bu’n ymdrin ag argyfyngau yn Affrica, y Balcanau, a’r Dwyrain Canol, gyda’i gohebiaeth o straeon o Gwlff Persia yn 1990 yn derbyn Gwobr Hal Boyle y Wasg Dramor am " Adroddiadau Gwasanaeth Papur Newydd neu Wifren Orau Dramor".[9] Yn 2006, dyfarnwyd iddi gymrodoriaeth Sefydliad Astudio Uwch Radcliffe Prifysgol Harvard.[10]

Roedd llyfr cyntaf Brooks, Nine Parts of Desire (1994) (a oedd yn seiliedig ar ei phrofiadau ymhlith menywod Mwslimaidd yn y Dwyrain Canol) yn werthwr-rhyngwladol, ac fe'i gyfieithwyd i 17 iaith. Roedd Foreign Correspondence (Gohebiaeth Dramor) (1997), a enillodd Wobr Lenyddol Nita Kibble am waith gan fenywod, yn gofiant ac yn antur deithio am blentyndod a gyfoethogwyd gan gyfeillion ac edmygwyr o bedwar ban byd, a'i hymgais i ddod o hyd iddynt.

Daeth ei nofel gyntaf, Year of Wonders, a gyhoeddwyd yn 2001, yn werthwr-rhyngwladol. Wedi'i gosod ym 1666, mae'r stori'n darlunio brwydr merch ifanc i achub cyd-bentrefwyr yn ogystal â'i henaid ei hun pan oedd y bu i'r pla biwbonig daro pentref Eyam yn Swydd Derby.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • 2006: Pulitzer Prize for March
  • 2008: Australian Publishers Association's Literary Fiction Book of the Year am People of the Book[11]
  • 2009: Helmerich Award[12]
  • 2010: Dayton Literary Peace Prize; Lifetime Achievement Award[13]
  • 2016: Swyddog o Urdd Awstralia

Llyfrau dethol

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Llyfrau ffeithiol

[golygu | golygu cod]
  • Nine Parts of Desire: The Hidden World of Islamic Women. 1994. ISBN 0-385-47576-4.
  • Foreign Correspondence: A Pen Pal's Journey from Down Under to All Over. 1997. ISBN 0-385-48269-8.
  • Boyer Lectures 2011: The Idea of Home (or "At Home in the World"). 2011. ISBN 978-0-7333-3025-4.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12487766b. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12487766b. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2006/04/17/business/media/17cnd-pulitzer.html?hp&ex=1145332800&en=ebc18186bee0db16&ei=5094&partner=homepage. http://www.nytimes.com/2008/01/20/books/review/Fugard-t.html?ref=books.
  3. Dyddiad geni: "Geraldine Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 http://sydney.edu.au/arts/government_international_relations/alumni/notable.shtml. http://www.chron.com/life/houston-belief/article/Pulitzer-winning-novelist-drawn-to-Judaism-1725422.php. http://www.nationalbook.org/nba2014_fic_longlist_pr.pdf.
  5. Galwedigaeth: http://articles.latimes.com/2011/may/29/entertainment/la-ca-geraldine-brooks-20110529. http://www.boston.com/ae/books/articles/2008/01/13/keeping_the_faith. http://www.theage.com.au/news/entertainment/books/gillard-defends-anthology-as-one-for-its-time/2009/10/08/1254701101238.html. http://www.nytimes.com/2005/08/07/books/review/07BROOKSL.html. http://www.smh.com.au/articles/2004/05/17/1084646128938.html. http://www.smh.com.au/news/national/rudd-to-meet-clinton-as-he-picks-aussie-brains/2008/03/31/1206850766785.html.
  6. Anrhydeddau: https://www.pulitzer.org/winners/geraldine-brooks. http://helmerichaward.org/winners/2009_geraldine-brooks.php. https://www.sydney.edu.au/content/dam/corporate/documents/university-archives/honorary-awards/b/ms-geraldine-brooks.pdf. https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/1152668.
  7. Larry Schwartz, "Author of her own success", The Age, 22 Ebrill 2006, Encounter, tud. 8
  8. "The wandering Haggadah: Novel follows journey of ancient Sephardic text (''J. the Jewish news weekly of Northern California'', 25 Ionawr 2008)". Jewishsf.com. 25 Ionawr 2008. Cyrchwyd 18 Mehefin 2012.
  9. "OPC Awards: 1990 Award Winners". Overseas Press Club of America. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2004. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2006. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  10. "Fellows". Radcliffe Institute for Advanced Study at Harvard University (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-15. Cyrchwyd 2019-01-15.
  11. "Brooks wins Book of the Year award", The Sydney Morning Herald, 15 Mehefin 2008
  12. Althea Peterson, "2009 Helmerich award winner has unusual past" Archifwyd 2012-10-07 yn y Peiriant Wayback., Tulsa World, 19 Chwefror 2009.
  13. LLC, D. Verne Morland, Digital Stationery International,. "Dayton Literary Peace Prize - Geraldine Brooks, 2010 Lifetime Achievement Award". www.daytonliterarypeaceprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-22. Cyrchwyd 28 Mehefin 2016.CS1 maint: extra punctuation (link)