Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio mewn car |
---|---|
Dyddiad | 25 Rhagfyr 2011 |
Lladdwyd | 43 |
Lleoliad | Madalla |
Cyfres o ffrwydradau ar draws gogledd-ddwyrain Nigeria ac y tu allan i'r brifddinas Abuja ar 25 Rhagfyr 2011 oedd ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011. Cafodd gwasanaethau'r Nadolig mewn eglwysi eu targedu gan Boko Haram, grŵp Islamaidd filwriaethus sydd â'r nod o orfodi sharia ar Nigeria. Bu farw 37 o bobl mewn ffrwydrad y tu allan i Eglwys y Santes Teresa ym Madalla, ger Abuja, ac anafwyd 57.[1] Bu ffrwydrad yn agos i Eglwys Mynydd y Tân a'r Gwyrthiau yn Jos, a chafodd heddwas yna ei ladd wrth i ddynion arfog saethu ar bobl. Cafodd dau fom arall mewn adeilad agos eu diarfogi gan luoedd milwrol.[2]
Bu dau ffrwydrad yn ninas Damaturu, un ohonynt gan hunan-fomiwr car ar gonfoi Gwasanaeth Diogelwch y Wladwriaeth a laddodd tri pherson ar wahân i'r bomiwr, a ffrwydrad arall ger eglwys yn nhref Gadaka.[2]
Ymateb
[golygu | golygu cod]Dywedodd yr Arlywydd Goodluck Jonathan fod yr ymosodiadau yn "sarhad anwarantedig ar ein diogelwch a rhyddid cyfunol" ac addawodd i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a'u cosbi.[2] Cafodd y ffrwydradau eu condemio gan Ffrainc, y Deyrnas Unedig, y Fatican, yr Unol Daleithiau, a'r Almaen, a datganodd Israel y bydd yn anfon cymorth meddygol i Nigeria.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Nigeria church bomb death toll rises to 37, wounded 57. Reuters (30 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Deadly Nigeria bomb attacks condemned by world leaders. BBC (25 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.