Neidio i'r cynnwys

Rhod y Flwyddyn

Oddi ar Wicipedia
Rhod y flwyddyn gyda'r dyddiadau bras

Mae Rhod y Flwyddyn yn gylch blynyddol o wyliau tymhorol y'u dethlir gan Wiciaid a phaganiaid modern. Mae'r Rhod yn cynnwys ei wyth sabat, neu wyth gŵyl.[1] Mae pedwar Sabat Mawr, sydd wedi'u seilio ar wyliau tân y Celtiaid, a phedwar Sabat Llai, sef yr heuldroeon a'r cyhydnosau. Mae dathliadau'r Sabatau Mawrion yn dechrau ar fachlud haul y diwrnod cynt, gan fod y diwrnod Celtaidd yn dechrau ac yn gorffen ar fachlud haul.[2]

Roedd y Sabatau Mawrion yn rhan bwysig o galendr y Celtiaid, ac mae dilynwyr Wica yn dathlu Rhod y Flwyddyn yn ei ffurf bresennol ers 1958.[3]

Yn draddodiadol, mae'r flwyddyn yn dechrau ac yn gorffen ar Nos Galan Gaeaf.

Y Pedwar Sabat Mawr

[golygu | golygu cod]

Mae'r pedwar sabat mawr, sef y prif sabatau, neu'r sabatau tân, yn cynnwys:

  • Calan Chwefror, neu Imbolc, sydd ar 1 neu 2 o fis Chwefror. Gelwir hi hefyd yn Ŵyl y Canhwyllau.
  • Calan Mai, sydd ar 30 o fis Ebrill neu 1 o fis Mai. Gelwir hi hefyd Beltane, sef "Tân Beli".
  • Calan Awst, sydd ar 1 neu'r 2 o fis Awst. Gelwir hi hefyd Lugnasad, Lughnasadh, a Lammas.
  • Calan Gaeaf, sydd ar 31 o fis Hydref. Gelwir hi hefyd Samhain (All Hallow's Eve yn Saesneg).

Y Pedwar Sabat Chwarter

[golygu | golygu cod]

Mae'r pedwar sabat chwarter, sef yr heuldroeon a'r cyhydnosau, neu'r sabatau llai, yn cynnwys:

  • Gŵyl Ganol y Gaeaf, neu Byrddydd Gaeaf ac Alban Arthan. Dethlir hi ar 20 neu 21 o fis Rhagfyr, sef fel arfer y dydd byrraf.
  • Gŵyl Ganol yr Haf, neu Hirddydd Haf ac Alban Hefin. Dethlir hi ar y 20 neu 21 o fis Mehefin, sef fel arfer y dydd hiraf.
  • Cyhydnos y Gwanwyn, neu Alban Eilir. Dethlir hi fel arfer ar 20 neu 21 o fis Mawrth pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gelwir hi hefyd yn Ostara gan rai.
  • Cyhydnos yr Hydref neu, Alban Elfed. Dethlir hi fel arfer ar 20 neu 21 o fis Medi pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gelwir hi hefyd yn Mabon gan rai.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. Eight Sabbats for Witches (1981) (cyhoeddwyd fel Rhan 1 o A Witches' Bible, 1996) Custer, Washington, Yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing Inc. ISBN 0-919345-92-1
  2. Ó hÓgáin, Dáithí. Myth Legend and Romance: An Encyclopaedia of the Irish Folk Tradition. Prentice Hall Press, 1991. p. 402. Quote: "The basic Irish division of the year was into two parts, the summer half beginning at Bealtaine (May 1st) and the winter half at Samhain (November 1st) ... The festivals properly began at sunset on the day before the actual date, evincing the Celtic tendency to regard the night as preceding the day".
  3. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Sutton Mallet, Lloegr: Green Magic. ISBN 0-9547230-1-5

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]