Sgwrs:Dawnslunio
Gwedd
Mae'n wych o beth bod gennym air ein hunain am goreograffi, sef dawnslunio. Mae'r cyfryw eiriau yn gwneud mwy o synnwyr o lawer na benthyciadau Saesneg (ond yn tarddu o'r Lladin!). Mewn ffordd debyg, creais yn ddiweddar erthygl (wel, eginyn erthygl) o'r enw 'trengholiad', sef inquest. Mae'r gair yn bodoli yn y GPC + Geiriadur yr Academi; hefyd, fe'i defnyddiwyd sawl gwaith ar flog Vaughan Roderick ar y BBC. Rydym yn ganmil cyfoethocach am sicrhau ein bod yn arddel ein geiriau Cymraeg :) Cofion cynnes
Dechrau sgwrs am Dawnslunio
Talk pages are where people discuss how to make content on Wicipedia the best that it can be. You can use this page to start a discussion with others about how to improve Dawnslunio.