Neidio i'r cynnwys

Cwm Gwendraeth

Oddi ar Wicipedia
Cwm Gwendraeth
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Golygfa yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, ger Mynydd-y-garreg

Bro neu ardal wledig yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Cwm Gwendraeth. Er bod yr enw Cwm Gwendraeth yn cael ei ddefnyddio am yr ardal, ceir dau gwm Gwendraeth mewn gwirionedd, sef Cwm Gwendraeth Fawr a Chwm Gwendraeth Fach, a ffurfir gan afonydd Gwendraeth Fawr, sy'n tarddu yn Llyn Llech Owain, a Gwendraeth Fach, sy'n tarddu ym mryniau Dyffryn Tywi. Gorwedd y fro rhwng Rhydaman, Llanelli a Caerfyrddin.

Mae Cwm Gwendraeth yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac yn cael ei ystyried fel arfer yn rhan o'r Fro Gymraeg.

Yn ddiweddar, sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth, menter iaith i hyrwyddo'r defnydd ymarferol o'r iaith Gymraeg yn y fro.

Yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, rhwng Y Tymbl, Dre-fach a Cross Hands, ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.

Pentrefi a threfi

[golygu | golygu cod]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • 'Cwm Gwendraeth a Llanelli', D. Huw Owen, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1989, ISBN 0 906821 09 6
  • 'Glofeydd Cwm Gwendraeth', Ken C. Treharne, Llyfrgell Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1995

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato