Neidio i'r cynnwys

Elfed Lewis Jones

Oddi ar Wicipedia
Elfed Lewis Jones
Ganwyd29 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 1989 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Roedd Elfed Lewis Jones MBE (29 Ebrill 1912 - 5 Hydref 1989) yn chwaraewr Rygbi'r undeb Cymreig y cwtogwyd ar ei yrfa ryngwladol oherwydd dechrau'r Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli, ac ym 1938 cafodd ei ddewis i fynd ar daith i Dde Affrica gyda thîm Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn Llanelli yn blentyn i Elfed Jones a Matilda (née Lewis) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Sir Llanelli. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel clerc Llys Ynadon Llanelli. Ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd ymunodd Jones â'r Llu Awyr Brenhinol gan godi i reng arweinydd sgwadron; derbyniodd Croes Filwrol Gwlad Belg ac yn ddiweddarach dyfarnwyd y MBE iddo.[2]

Gyrfa rygbi

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Jones chwarae rygbi fel bachgen ysgol ar gyfer ei ysgol leol, gan ymuno â Llanelli Harlequins fel oedolyn. Erbyn tymor 1932/33 roedd yn chwarae i dîm dosbarth cyntaf Llanelli, gan ddod â’r tymor hwnnw i ben fel prif sgoriwr ceisiau'r tîm, wedi croesi'r llinell 15 o weithiau [3] Jones oedd y prif sgoriwr ceisiau Llanelli yn y tymor canlynol hefyd, gan sgorio 23 o geisiau. Yn nhymor 1934/35 parhaodd Jones i sgorio'n rheolaidd, ond rhagorwyd ar ei gyfri o 16 cais gan ei gyd-asgellwr Bill Clement.[4] Y tymor canlynol, llwyddodd Jones i adennill ei deitl fel y prif sgoriwr ceisiau gydag 20 cais. Ym 1935 wynebodd tîm rhyngwladol am y tro cyntaf wrth i'r tîm teithiol o Seland Newydd ddod i Lanelli ar 22 Hydref 1935. Dewiswyd Jones i wynebu'r twristiaid, er iddo fethu â sgorio yn y gêm a enillwyd 16-8 gan Seland Newydd. Yn ystod tymor 1936-37 dewiswyd Jones yn gapten y tîm, ac arweiniodd y tîm i un o’u tymhorau mwyaf llwyddiannus gan sgorio record o 699 o bwyntiau. Dangosodd Jones ei ymrwymiad i Lanelli a’r gêm amatur trwy wrthod tri ymgais i'w gael i ymuno â Chynghrair broffesiynol y Gogledd, er gwaethaf cynnig iddo ffi arwyddo o £400.[5]

Ym 1938 cafodd ei ddewis i fynd ar daith i Dde Affrica fel rhan o dîm y Llewod o dan arweiniad Bernard Charles Hartley [6] . Er iddo chwarae mewn dim ond 12 o'r 24 gêm ar y daith, Jones oedd sgoriwr y nifer fwyaf o geisiau'r daith gyda deg, gan gynnwys cais cyntaf y Llewod yn erbyn tîm o Dde Affrica, yn nhrydedd Prawf y gyfres.[7] Ddwywaith yn y daith fe sgoriodd hat-tric o geisiau, yn erbyn Ardaloedd y De Orllewin ac yna yn erbyn Rhodesia.[8]

Yn ystod tymor 1938/39, dewiswyd Jones ar gyfer ei unig gap rhyngwladol. Wedi'i ddewis ar gyfer ail gêm Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1938, yn erbyn yr Alban. Er gwaethaf buddugoliaeth o 11-3, disodlwyd Jones ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Iwerddon gan Chris Matthews. Tymor 1939/40 fyddai un olaf Jones cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Dim ond un gêm a chwaraeodd, cyn i Undeb Rygbi Cymru ddatgan bod rygbi cystadleuol yn dod i ben, sef gêm yn erbyn Felin-foel. Jones oedd capten Llanelli ar gyfer yr ornest.[9] Daeth Jones â’i yrfa i ben gyda Llanelli fel un o’u sgorwyr ceisiau uchaf, gyda chyfanswm gyrfa o 129, un o’r ychydig chwaraewyr i fod wedi sgorio dros gant o geisiau i’r clwb.[10]

Wedi'r Rhyfel

[golygu | golygu cod]

Wedi'r rhyfel, parhaodd Jones â'i gysylltiad â rygbi a Llanelli trwy ddod yn Gadeirydd y clwb rhwng 1960 a 1967 ac yna gan wasanaethu fel Llywydd y clwb rhwng 1978 a 1981.[11] Yn ei rôl fel Cadeirydd, gwnaeth araith yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol 1964 o Undeb Rygbi Cymru, lle ymosododd ar glybiau’r undeb a thîm Chymru am esgeuluso hyfforddi; a chanolbwyntio gormod ar ffitrwydd corfforol gan esgeuluso sgiliau a thactegau sylfaenol.[12] Aeth ymlaen i honni bod rygbi Cymru ar lefel ryngwladol a chlwb wedi dirywio gyda hyd yn oed chwaraewyr rhyngwladol heb y gallu i drin y bêl yn gywir. Plediodd Jones i Bwyllgor Hyfforddi Cymru gael ei ailgyfansoddi ac i'r Undeb ystyried penodi Hyfforddwr Rygbi swyddogol gyda sawl cynorthwyydd, rhag i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb "ddirywio i fod yn gyfarfod o glybiau cymdeithasol, yn lle rygbi." [13] Ym 1967, penododd Undeb Rygbi Cymru ei hyfforddwr rhyngwladol cyntaf, David Nash. Yn gredwr cyson yng nghynnydd rygbi, yng nghyfarfod blynyddol Clwb Rygbi Llanelli 1964/65, cyhoeddodd yr angen i greu ail dîm "i bontio'r bwlch rhwng y timau Ieuenctid ac Uwch".[14]

(Nodyn: Bu ŵr o'r enw Elvet Jones yn chware rygbi i Gymru ar ôl y rhyfel, ond dyn gwahanol efo enw tebyg bu'n chware i glybiau Caerdydd a Chastell-nedd oedd ef).[15]

Gemau rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Cymru:

Baner Yr Alban Yr Alban 1939

Y Llewod

Baner De Affrica De Affrica , 1938

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Griffiths, John (1990). British Lions. Swindon: Crowood Press. ISBN 1-85223-541-1.
  • Hughes, Gareth (1986). The Scarlets: A History of Llanelli Rugby Club. Llanelli: Cyngor Bwrdeistref Llanelli. ISBN 0-906821-05-3.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Elfed Lewis Jones". ESPN scrum. Cyrchwyd 2019-10-11.
  2. worldrugbymuseum (2018-10-08). "Flying Lions: Elfed Jones". World Rugby Museum: from the vaults. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 2019-10-11.
  3. Hughes (1986) tud.131
  4. Hughes (1986) tud.133
  5. Hughes (1986) tud.139
  6. Reuter. "British Tourists Win Again." Daily Telegraph, 16 Mehefin 1938, tud. 20. The Telegraph Historical Archive adalwyd 11 Hydref 2019
  7. Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. tt. 86–87. ISBN 1-872424-10-4.
  8. Howell, Andy (2016-01-12). "The 25 greatest Scarlets players of all time". walesonline. Cyrchwyd 2019-10-11.
  9. Hughes (1986) tud.144
  10. Hughes (1986) tud.246
  11. Hughes (1986) tud.257
  12. Smith (1980) tud.369
  13. Smith (1980) tud.370
  14. Hughes (1986) tud.195
  15. "Watkin Elvet Jones". ESPN scrum. Cyrchwyd 2019-10-11.