Baner Camerŵn
![](http://178.128.105.246/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4f/Flag_of_Cameroon.svg/250px-Flag_of_Cameroon.svg.png)
![](http://178.128.105.246/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/FIAV_111111.svg/23px-FIAV_111111.svg.png)
Baner drilliw fertigol gyda stribed chwith gwyrdd, stribed dde melyn a stribed canol coch gyda seren felen yn ei ganol yw baner Camerŵn. Cynrychiola gobaith gan wyrdd, undod gan goch a'r seren, a ffyniant gan felyn; mae'r lliwiau hefyd yn lliwiau pan-Affricanaidd.
Trefedigaeth Almaenig oedd Kamerun o 1884 i 1916 cyn y rhannwyd rhwng Ffrainc a Phrydain yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yr ardal Ffrengig, Camerŵn, yn ymreolaethol ar 1 Ionawr 1959 ac yna'n annibynnol ar 1 Ionawr 1960 a mabwysiadwyd baner drilliw werdd-goch-felen yn seiliedig ar Tricolore Ffrainc; hon oedd yr ail faner genedlaethol yng Ngorllewin Affrica i ddefnyddio'r lliwiau pan-Affricanaidd, ar ôl Ghana, a seiliwyd ei hun lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.
Yn 1961 ymunodd yr ardal Brydeinig, Southern Cameroons, â'r gyn-drefedigaeth Ffrengig i ffurfio Gweriniaeth Camerŵn, ac ychwanegwyd dwy seren felen yn hanner uchaf y stribed gwyrdd. Ar 20 Mai 1975 mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol: diddymwyd y ddwy seren a gosodwyd seren unigol yng nghanol y faner i symboleiddio undod y wladwriaeth newydd.
Baneri Eraill
[golygu | golygu cod]-
Namer Camerŵn Almaeneg
-
Baner Camerŵn Almaenig (Cynigiwyd ond ni arddelwyd fyth)
-
Baner Camerŵn Brydeinig (1922–1961)
-
Baner Camerŵn Ffrengig (1957–1961)
-
Baner Gweriniaeth Pobl Camerŵn (1961–1990)
-
Baner Gweriniaeth Camerŵn (1990-presenol)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002)