Baner São Tomé a Príncipe
![](http://178.128.105.246/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Flag_of_S%C3%A3o_Tom%C3%A9_and_Pr%C3%ADncipe.svg/250px-Flag_of_S%C3%A3o_Tom%C3%A9_and_Pr%C3%ADncipe.svg.png)
![](http://178.128.105.246/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/FIAV_111111.svg/23px-FIAV_111111.svg.png)
Baner drilliw lorweddol, gyda stribedi uwch ac is gwyrdd a stribed canol melyn â dwy seren ddu arno, gyda thriongl coch yn y hoist yw baner São Tomé a Príncipe. Mae coch, melyn, du, a gwyrdd yn lliwiau pan-Affricanaidd; mae coch hefyd yn cynrychioli'r frwydr am annibyniaeth, yn debyg i faneri Ghana a Togo sydd eu hunain wedi ei seilio ac ysbrydoli gan faner Ethiopia.
Mae'r ddwy seren yn symboleiddio'r ddwy ynys, São Tomé a Príncipe. Fe'i hysbrydolwyd gan faner Ghana, ac mae'n seiliedig ar faner y Mudiad dros Ryddhad São Tomé a Príncipe (MLSTP). Mabwysiadwyd ar 5 Tachwedd 1975 yn sgîl annibyniaeth ar Bortiwgal, ac fe'i chedwir fel y faner genedlaethol hyd yn oed ar ôl i'r MLSTP golli ei fonopoli ar rym ym 1990.
Mae'r faner yn debyg i faner dau gyn-drefedigaeth Portiwgaleg arall, baner Gini Bisaw ac, am ychydig hen faner Cabo Verde.
Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]
Gweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae São Tomé a Príncipe yn aelod ohoni.
ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)