Neidio i'r cynnwys

Môr Azov

Oddi ar Wicipedia
Môr Azov
Mathmôr, bae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Du Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd37,600 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46°N 37°E Edit this on Wikidata
Hyd340 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Y Môr Du a Môr Azov

Môr sy'n cysylltu â'r Môr Du yw Môr Azov (Rwseg: Азо́вское мо́ре - Azovskoye more; Wcreineg: Азо́вське мо́ре - Azovs'ke more). Saif i'r gogledd o'r Môr Du, yn cysylltu ag ef trwy Gulfor Kerch. Mae'r Wcráin i'r gogledd iddo, Rwsia i'r dwyrain, a Gorynys y Crimea i'r gorllewin.

Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw afon Don ac afon Kuban. Y prif borthladdoedd yw Rostov-na-Donu, Taganrog, Zhdanov, Kerch a Berdyansk.